Blas – Folk Radio Cymru

Siân James

sian-james-4222

Sian James Siân yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o’n prif aroleswyr ym myd cerddoriaeth traddodiadol. Canai’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac yn gyfansoddwr. Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd ac fe’i pherchir fel un o’n prif llysgenhadon cerddorol. Erbyn hyn mae hi wedi rhyddhau naw albym o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol a gwmpasai ein emosiynau tyfnaf, o gariad a chwerthin, i golled a’r byd ysbrydol. Mae Siân yn enwog am ei gallu greddfol i gyfleu emosiwn twfn yn ei chaneuon a hynny gyda didwylledd ac angerdd. Yn 2014 bu’n cyd-weithio ar brosiect cerddorol gyda chantorion o Gairo, ac ymysg ei theithiau diweddar oedd cyngherddau yn Kansas City, China, Vietnam a Phatagonia. Breintiwyd hi yn 2007 a’i gwneud yn Gymrodyr o Brifysgol Bangor am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru, ac yn ddiweddar fe’u urddwyd yn aelod drwy anrhydedd i’r Gorsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod.

Siân James One of Wales’ leading contemporary female vocalists and a foremost innovator in the field of traditional folk songs. She plays Celtic harp and is an excellent pianist and composer. Her versatility as a performer has seen her starring on stage, screen and concert venues throughout the world, and is respected as one of Wales’ leading ambassadors of song. She has to date released nine albums of her work – eclectic collections of both original and traditional songs which encompass the whole gamut of human emotion, from love and laughter, to loss and spiritual quest. Siân is renowned for her instinctive ablilty to project deep emotion within her songs with unequalled sincerity and passion. Recently, Siân worked on a collaborative project with the Cairo based band Nuba Nour, travelled to Kansas City to perform in the Folk Alliance Festival, performed in Germany, China and Vietnam, and has just returned from a tour of Patagonia. Siân was made an Honorary Fellow of the University of Bangor for her contribution to Welsh culture and was recently made an honorary member of the Gorsedd of the Bards at the National Eisteddfod in Meifod.