b1db0b_fbea335e4672499f9bbd6f29ff746fd7

Brawd a dwy chwaer – Elan, Marged a Gwilym Rhys o adral Eryri yng Ngogledd Cymru yw’r grwp Plu, a ffurfiodd yn Haf 2012. Mae sain Plu yn werin amgen gyda dylanwadau o ganu gwlad ac americana ac mae harmoni agos 3 rhan yn asgwrn cefn cyson i’w set amrywiol. Yn ogystal a’u caneuon gwreiddiol eu hunain mae Plu yn chwarae addasiadau o ganeuon traddodiadol o Gymru a thu hwnt.

Yn 2014 roedd Plu yn ran o Horizons/Gorwelion, cynllun a redir gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru. Fel rhan o’r cynllun hwn cawsant gyfle i chwarae mewn gwyliau megis Gwyl y Gelli a Gwyl Rhif 6, yn ogystal a recordio sesiwn byw yn stiwdio BBC Maida Vale. Bydd y band hefyd yn cynrychioli Cymru yn Folk Alliance International, Kansas City fis Chwefror 2016.

Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf ar label Sbrigyn Ymborth ym mis Gorffenaf 2013 a gafodd ei gynhyrchu gan Aled Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd hon ar y rhestr fer ar gyfer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2013/14. Creodd Plu albwm o ganeuon i blant o’r enw ‘Holl Anifeiliaid Y Goedwig’ ar label Sain Cyf a gafodd ei ryddhau fis Rhagfyr, 2014 a bu hon hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014/15. Cafodd eu trydydd albwm, o’r enw ‘Tir a Golau’ ei ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth fis Tachwedd 2015.

Formed of sibling trio – Elan, Marged and Gwilym Rhys from Snowdonia, North Wales in the Summer of 2012, Plu (meaning ‘feathers’ in Welsh) play alternative Welsh language folk music with hints of country/ Americana, with close 3 part harmonies being a back-bone to their varied set. As well as their own material Plu play adaptions of traditional songs of Welsh and other origins.

In 2014 Plu were part of Horizons/Gorwelion, a scheme delivered by BBC Cymru Wales in partnership with Arts Council Wales to develop new, independent contemporary music in Wales. As part of this project they played in festivals such as Hay Literary Festival and Festival No.6 as well as recording a live session at BBC studios Maida Vale. The band will be representing Wales at Folk Alliance International, Kansas City in February 2016.

Plu released their debut album ‘Plu’ on the label Sbrigyn Ymborth in July 2013 which was produced by Aled Hughes from Cowbois Rhos Botwnnog. This album was shortlisted for the Welsh Language Ablbum of the Year 2013/14. The trio created an album for children, titled ‘Holl Anifeiliaid Y Goedwig’, on the Sain Cyf label, released in December 2014. This was also shortlisted for Welsh Language Album of the Year 2014/15. Their third album ‘Tir a Golau’ was released in the Sbrigyn Ymborth label in November 2015.