Olion Byw 2

Mae Olion Byw yn perfformio cerddoriaeth a chaneuon traddodiadol Cymraeg ar y ffidil, gitâr, mandolin a llais. Mae eu cryfder yn gorwedd yn eu trefniadau cywrain a chyfoes a’u gallu i ddal hanfod y ‘genre’ a’i pherfformio mewn modd sy’n newydd, ffres a bywiog. Maent yn trwytho dylanwadau o ddiwylliannau eraill: cerddoriaeth Byd, Rŵts a Gwerin cyfoes, tra’n aros yn ddilys i ddiwylliant eu hunain. Mae’r deuawd yn creu awyrgylch cartrefol a chyffrous: cywrain ond syml, cyfoes ond traddodiadol.

Ers ffurfio yn 2010 mae’r ddeuawd wedi chwarae mewn gŵyliau di-ri yng Nghymru a Lloegr.  Gwelodd 2013 y band yn cymeryd rhan yng nghynllun datblygu artistiaid TRAC a thrip i WOMEX13. Yn 2014, yn sgîl WOMEX13 a gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Celfyddydau bu’r ddeuawd yn perfformio yng Ngorllewin Bengal, Folk Alliance International a’r Festival Inter-celtique, Lorient. Bu’r band hefyd yn mynychu WOMEX14.

Roedd 2015 yn flwyddyn tawel i’r ddeuawd wrth i Dan a Lucy ganolbwyntio ar gyfansoddi ac ysgrifennu i theatrau gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales.

Bwriad y band am 2016 yw i wneud taith fechan mewn partneriaeth â band arall. Hefyd i gael fwy o gyfleuon i chwarae yn Lloegr a’r gwledydd Geltaidd.

 

Olion Byw perform traditional Welsh music and songs on fiddle, guitar, mandolin and voice. Their strength lies in their bold arrangements and musicality and their ability to capture the essence of the genre and perform it in a way that is new, fresh and enlivening. They infuse influences from other cultures: World music, Roots and Nu-Folk, whilst remaining authentic to their own heritage. The duo create an intimate and exciting atmosphere: intricate yet simple, contemporary yet traditional. This year Olion Byw have performed in West Bengal, they showcased at FAI, Kansas City and have just returned from Festival Interceltique, Lorient.