unspecified

Back in the 6th-century, a priest called Maeloc moved from the Welsh-speaking Britania to Galicia and established there a colony called Britonia. Maelog is the modern form of the same name and the name of a band which musically navigates back and forth between Galician and Welsh shores. The powerful and cheery sound of the gaita, the Galician bagpipe; blended together with a powerful fiddle duo; guitar or bouzouki; mighty drums and voice; the spice and kick of the pibgorn added for extra flavour; whistles, flutes, clarinet… A slur of carefully chosen folk Galician and Welsh melodies: slow and fast, instrumental and sung, vigorous and mellow… make audiences sing, clap and dance.

Yn ôl yn y 6ed ganrif fe aeth Maeloc sant ynghyd â’i ddilynwyr o Brydain i Galisia, ac yno y sefydlodd wladfa o’r enw ‘Britonia.’ ‘Maelog’ yw ffurf fodern yr enw ac enw hefyd y band sy’n hwylio’n gerddorol yn ôl ac ymlaen rhwng arfordiroedd Cymru a Galisia heddiw.

Y mae swn grymus a llawen y ‘gaita,’ (y bibgod Galisiaidd), ynghyd â deuawd ffidil grymus, gitar, baswci, y chwibanogl, clarinet, drymiau, a llais, i gyd yn chwarae detholiad o alawon Cymreig a Galisiaidd, boed y rheiny’n gyflym neu araf, bywiog neu beraidd – yn peri i’r gynulleidfa ganu, dawnsio a churo dwylo.