Gareth Bonello

_KMT2851bw (2)

Enw lwyfan y cantor ac aml-offerynwr o Gaerdydd, Gareth Bonello yw The Gentle Good. Mae Gareth wedi ei ddylanwadu gan gerddoriaeth werin a thraddodiadau Cymru ac yn eu cyfuno gydag amryw o ddylanwadau eraill o hyd a lled y byd i greu cerddoriaeth werin gyfoes.

Mae Gareth wedi perfformio dros y byd i gyd, o wyliau mawr y Deyrnas Unedig megis Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Glastonbury i wyliau rhyngwladol mawr megis South by Southwest, Perth International Arts Festival a’r Smithsonian Folklife Festival. Mae Gareth yn gerddor dawnus ac yn gallu swyno cynulleidfa gyda dim ond ei lais a gitâr, er bod y nifer ar lwyfan weithiau yn ehangu i gynnwys band llawn a phedwarawd llinynnol.

Mae Gareth wedi rhyddhau tri albwm a chafodd dau ohonynt eu henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 a 2014. Cipiodd y record ddiweddaraf ‘Y Bardd Anfarwol’ wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014. I recordio’r albwm teithiodd Gareth i Tsieina i weithio gyda cherddorion o Theatr Celf a Pherfformio Chengdu, yn Sichuan.

Mae Gareth yn ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac wedi sefydlu ei hun yn un o gerddorion mwyaf blaengar y sin yng Nghymru. Mae albwm newydd ar y gweill yn 2016.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.thegentlegood.com

Cyswllt -thegentlegood@gmail.com

 

The Gentle Good is the stage name of Cardiff based songwriter and multi-instrumentalist Gareth Bonello. Taking influence from the traditional music and folklore of Wales along with a myriad of sources from all over the world, Gareth creates timeless folk music with a distinctly Welsh character.

Gareth has performed all over the world, from UK festivals such as Glastonbury and The Green Man Festival to major international festivals such as South by Southwest, Perth International Arts Festival and the Smithsonian Folklife Festival. An accomplished musician, Gareth is capable of enchanting an audience with a just guitar and vocal, although the lineup sometimes expands to include a full band and string quartet.

The Gentle Good has released three studio albums, two of which have been nominated for the Welsh Music Prize. The most recent record ‘Y Bardd Anfarwol’ is a collaboration with traditional Chinese musicians from the Chengdu Associated Theatre of Performing Arts and won the Welsh Language Album of the Year Award in 2014.

As a fluent Welsh speaker, Gareth is one of the most prominent songwriters writing in the Welsh language today.
A new record is due for release in 2016.

For more information please visit www.thegentlegood.com

Contact -thegentlegood@gmail.com